Account Login

Sign in to access exclusive member content.

  All fields are required

  Forgotten your password?

 

Don’t have an account?


Create an account now
 

26 January 2012

Arts & Business Cymru Awards 2012 / Gwobrau Celfyddydau & Busnes Cymru 2012

Hook

"A&B Cymru has seen a major change in the last few months as it became an independent charity, thanks to the ongoing support of the Welsh Government. However, it’s business as usual for the 2012 Awards. Our flagship event has grown in both size and stature over the past 19 years and we look forward to seeing the many exciting nominations this year. I am especially delighted that we can continue to reflect current trends in arts partnership by introducing the brand new philanthropy award."
Rachel Jones, Chief Executive, Arts & Business Cymru
 
 
"Principal sponsor of the Awards, Valero, recognises the enormous value delivered through linking business with the arts. Building on over 20 years of involvement with the arts across Wales, Valero Pembroke is delighted to work with Arts & Business Cymru again during 2012"
Jane James, Policy, Government & Public Affairs Manager, Valero Energy
 
 
"Bu newid mawr yn C&B Cymru dros yr ychydig fisoedd diwethaf wrth i'r sefydliad ddod yn elusen annibynnol, diolch i gymorth parhaus Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, bydd seremoni Gwobrau 2012 yn mynd yn ei blaen fel arfer. Mae ein prif ddigwyddiad wedi tyfu mewn maint a statws dros y 19 o flynyddoedd diwethaf ac edrychwn ymlaen at weld yr amryw enwebiadau cyffrous eleni. Rwy'n arbennig o falch y gallwn barhau i adlewyrchu'r tueddiadau cyfredol mewn partneriaethau celfyddydol drwy gyflwyno'r wobr ddyngarwch newydd."
Rachel Jones, Prif Weithredwr C&B Cymru
 
 
"Mae Valero, prif noddwyr y Gwobrau, yn cydnabod y gwerth enfawr a gyflawnir drwy gysylltu busnes â'r celfyddydau. Gan adeiladu ar fwy nag 20 mlynedd o ymwneud â'r celfyddydau ledled Cymru, mae Valero Pembroke yn falch o gael gweithio gydag Celfyddydau & Busnes Cymru eto yn ystod 2012."
Jane James, Polisi, Llwydoraeth a Materion Cyhoeddus, Valero Energy
 

The search is on for the best in creative partnership as Arts & Business (A&B) Cymru launches its 19th annual awards ceremony.  

The Awards, which encourage, acknowledge and celebrate exemplary partnerships between the private sector and the arts, reflect the broad range of work undertaken by A&B Cymru across the country.  The 2012 ceremony, sponsored by Valero, will take place on stage at Wales Millennium Centre on Thursday 14 June. 
  
In addition to 10 established categories, this year for the first time, A&B Cymru is recognising the role that individuals play in supporting the arts with a Philanthropy Award. The personal generosity of individual donations is playing an increasingly crucial part in Welsh cultural life. A&B Cymru feels it is important to give this method of arts support public recognition. 

The remaining categories are each sponsored by a key Welsh organisation. They are:

·
Arts, Business & Brand Identity, sponsored by Arup
· Arts, Business & the Community, sponsored by Wales & West Utilities
· Arts, Business & Young People, sponsored by Hugh James
· Arts & Small Business, sponsored by Principality Building Society
· Arts, Business & the Environment, sponsored by West Coast Energy
· Arts, Business & Employees, sponsored by First Great Western
· Arts, Business & Long Term support, sponsored by Hospital Innovations
· Business Adviser of the Year, sponsored by University of Wales, Newport
· The Admiral Business of the Year Award
· The Legal & General Arts Award 
 
The ceremony also benefits from staunch in-kind support from a range of Wales based businesses, including Carrick Creative, Flower Lodge, John Lewis Cardiff, Llanllyr Source, Park Plaza, Cardiff and Tropicana. For the second year, the ceremony’s media partner is BBC Cymru Wales.  
 
The award winners will be chosen by an independent panel of judges who have expertise in practical art forms, sponsorship and the aims of the private sector. They are: Carmarthen born tenor Wynne Evans, star of Go Compare’s TV advertising campaign; Ceidiog Hughes of North Wales PR company Ceidiog Communications; Christine Lewis, who was responsible for the early development of the speciality foods business for Marks and Spencer and who now sits on the boards of Artes Mundi and National Dance Company Wales; Managing Director of Maskreys Holdings and key member of A&B Cymru’s Investment Panel, Robert Maskrey; BBC Cymru Wales Director Rhodri Talfan Davies; and lecturer and Chair of Tan Dance, Clare Thomas. This high profile panel will decide which partnerships will win trophies, specially commissioned from Denbighshire based artist Jessica Lloyd Jones.
 
  
 
Gwobrau Celfyddydau & Busnes Cymru 2012
 
Rydym wrthi'n chwilio am y bartneriaeth greadigol orau wrth i Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru lansio'r 19eg seremoni ar gyfer ei wobrau blynyddol.
 
 
Mae'r Gwobrau, sy'n annog, yn cydnabod ac yn dathlu partneriaethau rhagorol rhwng y sector preifat a'r celfyddydau, yn adlewyrchu'r ystod eang o waith y mae C&B Cymru yn ei wneud ledled y wlad. Caiff seremoni 2012, a noddir gan Valero, ei chynnal ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru ddydd Iau 14 Mehefin.
  
Yn ogystal â'r 10 categori sefydledig, eleni am y tro cyntaf, mae C&B Cymru yn cydnabod y rôl y mae unigolion yn ei chwarae yn cefnogi'r celfyddydau drwy Wobr Ddyngarwch. Mae caredigrwydd personol rhoddwyr unigol yn chwarae rhan gynyddol bwysig ym mywyd diwylliannol Cymru. Cred C&B Cymru ei bod yn bwysig rhoi cydnabyddiaeth gyhoeddus i'r dull hwn o gefnogi'r celfyddydau. 
 
Noddir pob un o'r categorïau eraill gan sefydliad allweddol o Gymru, sef:
 
· Celfyddydau, Busnes a Hunaniaeth Brand, a noddir gan Arup
· Celfyddydau, Busnes a'r Gymuned, a noddir gan Wales & West Utilities
· Celfyddydau, Busnes a Phobl Ifanc, a noddir gan Hugh James
· Celfyddydau a Busnesau Bach, a noddir gan Gymdeithas Adeiladu'r Principality
· Celfyddydau, Busnes a'r Amgylchedd, a noddir gan West Coast Energy
· Celfyddydau, Busnes a Chyflogeion, a noddir gan First Great Western
· Celfyddydau, Busnes a Chymorth Hirdymor, a noddir gan Hospital Innovations
· Cynghorydd Busnes y Flwyddyn, a noddir gan Brifysgol Cymru, Casnewydd
· Gwobr Busnes y Flwyddyn Admiral
· Gwobr Celfyddydau Legal & General 
 
 
Mae'r seremoni hefyd yn elwa o gefnogaeth mewn nwyddau gan amrywiaeth o fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, gan gynnwys Carrick Creative, Flower Lodge, John Lewis Caerdydd, Llanllyr Source, Park Plaza, Caerdydd a Tropicana. Am yr ail flwyddyn, partner cyfryngau y seremoni yw BBC Cymru Wales.  
 
Caiff enillwyr y gwobrau eu dewis gan banel annibynnol o feirniaid sy'n arbenigo mewn ffurfiau ymarferol ar gelf, nawdd a nodau'r sector preifat, sef: Wynne Evans, y tenor a anwyd yng Nghaerfyrddin, ar ymgyrch hysbysebu Go Compare ar y teledu; Ceidiog Hughes o Ceidiog Communications, cwmni Cysylltiadau Cyhoeddus yng Ngogledd Cymru; Christine Lewis, a oedd yn gyfrifol am ddatblygu busnes bwydydd arbenigol i Marks and Spencer yn y cyfnod cynnar ac sydd bellach yn aelod o fyrddau Artes Mundi a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru; Robert Maskrey, Rheolwr Gyfarwyddwr Maskreys Holdings ac aelod allweddol o Banel Buddsoddi A&B Cymru; Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales; a Clare Thomas, darlithydd a Chadeirydd Tan Dance. Y panel hwn o feirniaid adnabyddus fydd yn penderfynu pa bartneriaethau a fydd yn ennill tlysau, sydd wedi'u comisiynu'n arbennig gan Jessica Lloyd Jones, yr artist o Sir Ddinbych.

Site by Hugo and Cat

© Copyright 2009 Arts & Business | Terms & Conditions