
Businesses and arts organisations across South & West Wales will be recognised at a special reception at the National Museum Cardiff on Wednesday 9 March. Welsh Assembly Government Heritage Minister Alun Ffred Jones, AM, will present Certificates of Excellence to recipients of Arts & Business Cymru’s CultureStep programme.
CultureStep invests cash into business / arts partnerships to make them stronger and more sustainable. Funded by the Welsh Assembly Government and the Arts Council of Wales, the programme is key to fostering and developing relationships, especially at a time of economic gloom.
Since its inception in May 2008, CultureStep has levered almost £2.3 million into the arts from business against just under £300,000 of public money spent – a return of £7.63:£1. The programme, which has invested in all 22 local authority areas of Wales, has also engaged 33,500 young people with the arts and given over 20,000 people in the community development opportunities.
Businesses present will range from small family run firms to national and multi national corporations. Arts partners range from individual practitioners through to national Welsh flagship organisations.
The CultureStep Reception is sponsored by Legal & General.
Dathlu Rhagoriaeth
Bydd sefydliadau busnes a chelfyddydol ar draws De a De-orllewin Cymru yn cael eu cydnabod mewn derbyniad arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar ddydd Mercher 9 Mawrth.
Bydd Alun Ffred Jones AC, Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn cyflwyno Tystysgrifau Rhagoriaeth i’r rhai hynny a ddilynodd raglen CultureStep Celfyddydau & Busnes Cymru. Mae CultureStep yn buddsoddi arian mewn partneriaethau busnes / celfyddydol er mwyn eu gwneud nhw’n gryfach ac yn fwy cynaliadwy. Mae’r rhaglen, sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn allweddol i feithrin ac i ddatblygu perthynas, yn enwedig yn y cyfnod economaidd llwm hwn.
Ers ei ddechreuad ym mis Mai 2008, mae CultureStep wedi cyfrannu oddeutu £2.3 miliwn i’r celfyddydau wrth fusnesau, o gymharu ag oddeutu £300,000 o arian cyhoeddus – elw o £7.63:£1. Mae’r rhaglen, sydd wedi buddsoddi ym mhob un o 22 o ardaloedd awdurdodau lleol Cymru, hefyd wedi ymrwymo 33,500 o bobl ifanc yn y celfyddydau ac wedi cynnig cyfleoedd datblygu i 20,000 o bobl yn y gymuned.
Bydd y busnesau sy’n mynychu’r digwyddiad yn amrywio o gwmnïau teuluol bychan i gorfforaethau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r partneriaid celfyddydol yn amrywio o ymarferwyr unigol i sefydliadau blaenllaw Cymreig cenedlaethol.
Noddir derbyniad CultureStep gan Legal & General ac fe gynhelir y digwyddiad rhwng 6.00pm a 8.30pm.