ARTS & BUSINESS CYMRU AWARDS 2012
Celebrating creativity and excellence in partnerships between business and the arts
BRIEF FOR AWARD
The Arts & Business Cymru Awards exist to encourage, acknowledge and celebrate exemplary partnerships between business and the arts across Wales. A high quality and high profile event, the 19th ceremony takes place at Wales Millennium Centre on Thursday 14 June 2012.
A&B Cymru wishes to commission 10 awards which will be presented to the winners of the various categories. An all inclusive fee of £3,000 + VAT will be paid for this commission.
Full details are attached. Proposals must be submitted in writing and incorporate drawing(s) of the award no later than Friday 16 December 2011.
GWOBRAU CELFYDDYDAU & BUSNES CYMRU 2012
Yn dathlu creadigrwydd a rhagoriaeth mewn partneriaethau rhwng busnes a’r celfyddydau
BRÎFF Y WOBR
Mae Gwobrau Celfyddydau & Busnes Cymru yn bodoli i annog, cydnabod a dathlu partneriaethau rhagorol rhwng busnes a’r celfyddydau ar hyd a lled Cymru. Cynhelir y digwyddiad hwn o ansawdd a phroffil uchel, yr 19fed seremoni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Iau 14 Mehefin 2012.
Mae C&B Cymru yn dymuno comisiynu 10 gwobr a gyflwynir i enillwyr y categorïau gwahanol. Telir ffi hollgynhwysol o £3,000 + TAW am y comisiwn hwn.
Mae’n rhaid cyflwyno cynnig yn ysgrifenedig gan gynnwys darlun(iau) o’r wobr erbyn dydd Gwener 16 Rhagfyr 2011 fan bellaf.
Rachel Jones
Prif Weithredwr / Chief Executive